Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Agenda (74)v4 |
1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog (60 munud) Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2. |
2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud) |
3. Datganiad gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau: Lansio’r Ymgynghoriad ar Ddiwygio’r Fframwaith Deddfwriaethol ar gyfer Anghenion Addysgol Arbennig (30 munud) |
4. Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol: Hygyrchedd i Gyfreithiau Cymru a Datblygu Llyfr Statud i Gymru – y wybodaeth ddiweddaraf (30 munud) |
5. Rheoliadau Seibiannau i Ofalwyr Plant Anabl (Cymru) 2012 (15 munud) NDM5019 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o’r Rheoliadau Seibiannau i Ofalwyr Plant Anabl (Cymru) 2012 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 29 Mai 2012. Dogfennau Ategol
|
6. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Cyllid Llywodraeth Leol (15 munud) NDM5002 Carl Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai darpariaethau’r Bil Cyllid Llywodraeth Leol i’r graddau y meant yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cael eu hystyried gan Senedd y DU. Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 28 Mai 2012 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(iii). Dogfennau
Ategol |
7. Dadl ar Ddiwygio Gwasanaethau Cyhoeddus (60 munud) NDM5018 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi Agenda Diwygio’r Gwasanaethau Cyhoeddus yng Nghymru. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn cydnabod y pwysigrwydd bod Awdurdodau Lleol yn ymgysylltu â’r sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector i hybu ymhellach y broses o gyflenwi gwasanaethau cyhoeddus cynaliadwy, effeithlon ac o ansawdd, sy’n cael eu harwain gan ddefnyddwyr ledled Cymru. Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn cydnabod y manteision o symleiddio gwasanaethau cyhoeddus o dan un cynllun integredig, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau nad yw darpariaeth gwasanaeth yn cael ei lleihau na’i hisraddio drwy’r broses hon. Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gydnabod pwysigrwydd tryloywder ac atebolrwydd ym mhob agwedd ar gyflenwi gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i archwilio dulliau o gynyddu hyder y cyhoedd yng nghyswllt cyflenwi holl ddarpariaeth gwasanaethau cyhoeddus Cymru. Gwelliant 5 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i leihau nifer y grantiau sydd wedi’u neilltuo ac i drosglwyddo’r cyllid hwn i’r Grant Cymorth Refeniw ar gyfer awdurdodau lleol fel rhan o’i Hagenda Diwygio Gwasanaethau Cyhoeddus. Gwelliant 6 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y costau i gyflenwi’r Compact ar gyfer Newid yn cael eu talu gan Lywodraeth Cymru ac nid gan awdurdodau lleol. Gwelliant 7 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio tuag at sefydlu gwasanaeth cyhoeddus penodol i Gymru. Dogfen Ategol |
Cyfnod Pleidleisio |
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30, Dydd Mercher, 27 Mehefin 2012